

Gwasanaethau Iaith Gymraeg
Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rydym yn falch o gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg ar draws ein gweithgareddau allgymorth, recriwtio ac ymgysylltu â myfyrwyr.
Gweithdai ac ymgysylltu â'r gymuned
Rydym yn cynnig gweithdai i ysgolion a gweithdai cymunedol yn y Gymraeg, ar draws disgyblaethau Cerddoriaeth a Drama.
Mae gweithdy Cerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer ysgolion yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddiwylliant Cymru ac addysg cyfrwng Cymraeg.
Recriwtio ac allgymorth yn y Gymraeg
Gall ein ein sgyrsiau 'Astudio yn CBCDC' a'n teithiau campws ar gyfer ysgolion gael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym yn gallu cyfathrebu'n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg gyda rhai ysgolion drwy gydol prosiect partneriaeth neu allgymorth lle gall ein tîm helpu pobl ifanc i ystyried dyfodol creadigol yn eu hiaith gyntaf.
Rydym yn rheolaidd yn anfon staff sy'n siarad Cymraeg i ysgolion cyfrwng Cymraeg ar gyfer digwyddiadau recriwtio fel ffeiriau gyrfaoedd.
Rydym hefyd yn sicrhau presenoldeb cryf yn y Gymraeg mewn digwyddiadau cenedlaethol fel Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol, lle mae ein cynrychiolwyr Cymraeg eu hiaith ar gael i sgwrsio gyda darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd.
Diwrnodau agored a derbyn myfyrwyr
Yn ystod ein Diwrnodau Agored, mae siaradwyr Cymraeg ar gael mewn mannau cofrestru a derbyn i gynorthwyo ymwelwyr yn y Gymraeg.
Bydd y rhai sy'n dewis yr opsiwn i gyfathrebu’n Gymraeg wrth archebu yn derbyn gwybodaeth ymlaen llaw am y cymorth Cymraeg sydd ar gael ar y diwrnod.
Canolfan y Celfyddydau
Mae CBCDC yn ganolfan gelfyddydau ddwyieithog gyda desgiau croeso, arwyddion, nodiadau rhaglenni a chyhoeddiadau cyhoeddus dwyieithog. P'un a ydych chi'n dod i fwynhau perfformiad neu'n cymryd rhan mewn gweithdy, fe welwch y Gymraeg yn cael ei chynrychioli ledled y Coleg.
Rydym hefyd yn cefnogi perfformiadau yn y Gymraeg, yn ogystal ag uwchdeitlau Cymraeg ar gyfer cynyrchiadau perthnasol, gan helpu i wneud allbwn artistig y Coleg yn gynhwysol a hygyrch.
Rydym yn datblygu ac ehangu ein darpariaeth Gymraeg yn barhaus, nid yn unig i fodloni gofynion Safonau'r Gymraeg, ond i hyrwyddo'r iaith yn weithredol a chreu amgylchedd croesawgar, cynhwysol i bawb. P'un a ydych yn ymweld, yn astudio, yn gweithio, neu'n perfformio gyda ni, rydym am i chi deimlo'n gartref yn eich dewis iaith.