Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Arddangosfa i raddedigion MMus

Mae ein rhaglen MMus yn eich arfogi â'r sgiliau a'r profiad sy'n hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn cerddoriaeth, ni waeth pa lwybr a ddewiswch. Yma gallwch ddarllen am rai o’n graddedigion diweddar a sut y gwnaethant deilwra eu profiad MMus yn CBCDC i gyd-fynd â’u dyheadau gyrfa.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
''Fe wnaeth y cwrs hwn fy helpu i sefydlu cysylltiadau gwerthfawr yn y byd proffesiynol, nid yn unig gyda theatrau ac artistiaid trwy fy ngwaith cyfansoddi ond hefyd gyda sefydliadau cerdd trwy leoliadau. Mae datblygu sgiliau rhyngbersonol cryf wedi bod yn allweddol i adeiladu perthnasoedd â diwydiant sydd â hirhoedledd.''
Takisha SargentGraddedig Cyfansoddi MMus
'Roeddwn i'n teimlo'n hollol barod pan raddiais a rhoi troed yn y "byd opera proffesiynol". Roedd y profiadau a gefais yn CBCDC hyd yn oed yn fwy proffesiynol na rhai o dai opera mawr. Rwy'n cofio bod hyn yn sioc fawr i mi, ac fe wnaeth i mi sylweddoli pa mor ffodus a pha mor dda y bûm wedi cael fy addysgu.'
Lluis Calvet i PeyGraddedig Ysgol Opera David Seligman

Cwrdd â'n graddedigion MMus

Yma gallwch ddarllen am rai o'n graddedigion diweddar a sut y gwnaethon nhw deilwra eu profiad MMus yn RWCMD i gyd-fynd â'u dyheadau gyrfa.

Select a profile to continue reading