Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cymorth Iechyd Meddwl i Fyfyrwyr #MentalHealth AwarenessWeek

Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a thema eleni yw straen. Rydym yng nghanol tymor yr haf, ac er bod hynny efallai’n golygu awyr las a dyddiau hir – newid a groesawir gan nifer ohonom – mae hefyd yn adeg o’r flwyddyn lle mae gan lawer o fyfyrwyr arholiadau neu asesiadau a gallant brofi lefelau uchel o straen.

Mae’r Coleg yn profi cynllun gyda myfyrwyr newydd i’w helpu i ganolbwyntio ar adborth yn hytrach na’r marc a ddyfarnwyd. Mae hyn i gyd yn rhan o’r nifer o wasanaethau sydd ar gael i helpu myfyrwyr i ymdopi â materion iechyd meddwl a lles sy’n benodol i astudio mewn Conservatoire. 

'Mae’r gwasanaethau a’r adnoddau sydd gennym yn y Coleg yn helpu myfyrwyr i ddatblygu gwytnwch emosiynol wrth astudio, gan roi persbectif iddynt a’u paratoi ar gyfer bywyd yn y dyfodol. Rydym yn darparu amgylchedd cefnogol, lle gall myfyrwyr ddod atom am gyngor, cyn eu diwrnod cyntaf hyd yn oed'
Brian WeirDirector of Student Experience

Mae’r ystod o wasanaethau yn darparu cefnogaeth seicolegol ac ymarferol amhrisiadwy i fyfyrwyr o’r eiliad y maent yn cofrestru, drwy wasanaethau cwnsela, adnoddau a mentoriaid.

Rhannu ar Twitter

Rhannu ar Facebook

Storïau eraill